Mae’r digrifwr arobryn Tom Lucy yn mynd ar ei daith unigol fwyaf gyda’i sioe newydd sbon ‘Golden Boy’.
Tom yw un o’r digrifwyr ifanc mwyaf cyffrous yn y DU. Mae’n cyflwyno’r podlediad llwyddiannus ‘Private Parts’ ac mae wedi ymddangos ar nifer o sioeau teledu fel ‘Roast Battle’, ‘Stand Up For Live Comedy’, ‘Dating No Filter’, ‘The Lateish Show’ a ‘Stand Up Central’.
Wrth i Tom agosáu at ddiwedd ei ugeiniau, mae’n myfyrio ar y ddegawd flaenorol, yr holl elfennau cyffrous a gwyllt, ac yn mynegi ei bryderon am fywyd yn y dyfodol.
Mae Tom wedi teithio’r byd yn agor sioeau mewn arenau i Jack Whitehall, ac fel awdur mae wedi gweithio ar sioeau fel y ‘BRIT Awards’.
Enillydd – Digrifwr Newydd Gorau The Sun
Enillydd – Digrifwr y Flwyddyn Leicester Mercury
‘Watch him live and you’ll understand the excitement’
Amser Dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.