Treuliwch noson gyda Victoria Scone, (“breaking ground in ways no one else has” – RuPaul, ie wir,, RuPaul!) wrth iddi hel atgofion am ei bywyd perfformio, fel merch ifanc, yn herio rhywedd mewn cynyrchiadau ysgol (fel ei pherfformiad canmoledig iawn fel Seymour yn Little Shop of Horrors yn 10 oed), hyd at lywio drwy fyd drag y DU, ymddangos ar RuPaul’s Drag Race a nawr y West End a thu hwnt.
Gan edrych yn ôl ar ganeuon a sioeau sydd wedi effeithio arni ac sydd â lle arbennig yn ei chalon oer, bydd No Place Like Scone yn edrych ‘nôl mewn ffordd dwymgalon a doniol ar y llwybr a gymerodd Victoria i gyrraedd lle mae hi heddiw, fel un o ddoniau drag mwyaf poblogaidd yn y DU a’r lesbiaid mwyaf swnllyd.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.