Yn dilyn ei thaith gyntaf lwyddiannus Riawakening (Deg Sioe Stand-yp Orau 2024 – Telegraph), sylweddolodd Ria Lina ei bod hi’n fwy nag ar ddihun, roedd hi’n barod i wrthryfela.
Gallwch chi ddisgwyl ffrwd ddidrugaredd o chwerthin wrth i Ria archwilio cyflwr y byd, brwydr dragwyddol y rhywiau a hyfrydwch taflu bywyd i fyny i’r awyr ar ôl blynyddoedd o ddilyn y rheolau.
Mae Ria, sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n boblogaidd iawn yn y diwydiant, yn rheoli’r llwyfan gyda chorwynt o egni ac yn gadael cynulleidfaoedd yn fyr eu gwynt o chwerthin gymaint. Mae ei chlodrestr hir yn cynnwys Live At The Apollo, Have I Got News For You?, Mock the Week, cydgyflwyno Pointless, Lovestruck High, Richard Osman’s House of Games, The Last Leg a Celebrity Mastermind.
Mae Ria Lina yn ddigrifwr, awdur ac actor dawnus iawn. Ar ôl ymddangos ar y teledu yn gwneud stand-yp ar Mock the Week (BBC), mae hi wedi dod yn enw cyfarwydd yn gyflym. Fel act sy’n cael ei edmygu ym myd comedi y DU, mae’r artist arobryn yma yn ennyn parch o’r eiliad mae’n cerdded ar y llwyfan ac mae’n perfformio gydag egni, ffyrnigrwydd a chysur naturiol. Ria yw’r digrifwr Ffilipina mwyaf amlwg yn y byd stand-yp Prydeinig. Mae ganddi BSc mewn Patholeg Arbrofol, MSc mewn Gwyddoniaeth Fforensig a PhD mewn Feiroleg, felly nid comedi Ria yn unig sy’n hynod ddeallus.
Credyd Llun: Rachel Berkowitz
“Engaging, endearing and eye-opening”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Warnings: Rhegi
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.