Fe’ch gwahoddir i’r sioe boethaf yng Nghaerdydd.
Yn dilyn sioe a werthodd allan y llynedd, mae Prima Donna Productions yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru am un noson yn unig i gyflwyno noson bryfoclyd sy’n cynnwys goreuon byd bwrlésg y DU, dawnswyr anhygoel, cantorion byw a lein-yp gwych o gerddorion.
Wedi’i gyflwyno gan y bygythiad triphlyg Belle de Beauvoir, gyda pherfformiadau gan y sêr bwrlésg arobryn Beatrix Valhalla a Sebastian Angelique.
Mae’r sioe yn agor gyda band jazz tri aelod wedi’i arwain gan Pete Saunders (Dexy’s Midnight Runners) yn cyd-fynd ag arddangosfa arobryn o sêr bwrlésg a lleisiau byw. Gan roi troad ar fwrlésg band byw clasurol, mae’r merched sioe yma i roi noson wych i chi.
Gwisgwch eich dillad gorau a pharatowch ar gyfer noson wefreiddiol.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.