Mae’r artist jazz datblygol Holly Cosgrove wedi creu sioe deyrnged fwyaf newydd ac awthentig y DU i Amy Winehouse.
Bydd Absolute Amy yn mynd â chi ar daith nodedig drwy ddylanwadau Amy, gan gynnwys ei chaneuon gorau a’i rhai hwyrach, gan gynnwys enaid, hip-hop, jazz a ska, gyda thebygrwydd sy’n cadw cerddoriaeth anhygoel Amy yn fyw.
Dyma Holly Cosgrove, cyfansoddwr caneuon jazz/trip-hop sydd fwyaf adnabyddus fel ‘Fable’ a theyrnged orau’r DU i Amy Winehouse.
‘Y peth wnaeth fy nharo i am Amy pan glywais i hi’n canu am y tro cyntaf oedd ei thôn a’i synnwyr o amseru. Fel Frank Sinatra, roedd ganddi gymaint o bresenoldeb yn y bar, rhywbeth gwnaeth fy swyno fel cerddor ifanc a dyna beth dwi’n ceisio ei greu yn fy ngherddoriaeth fy hun, y defnydd perffaith o ofod’ – Holly Cosgrove
Ar ôl ennill cyfres o sioeau talent mawr yn y DU, roedd hi’n amlwg mai gyrfa yn y byd adloniant oedd dyfodol Holly. Mae hi’n act gyffrous a bywiog sydd wedi cael llawer o brofiad mewn theatrau, ardaloedd gwyliau, gwestai a digwyddiadau preifat.
Mae ei llais dynamig a phwerus a’i phresenoldeb proffesiynol ar y llwyfan yn creu perfformiad anhygoel. Mae Holly yn dangos gallu prin i gyflwyno pop cyfoes yr un mor dda â ‘chaneuon sioe’ wedi’u coreograffu gyda hunanfeddiant a steil.
Gall ei llais hudolus neidio yn ddiymdrech rhwng genres cerddorol amrywiol.
Mae Holly, sy’n 28 oed, wedi perfformio mewn lleoliadau fel Brixton Academy, Albert Hall Manceinion, Shepherd’s Bush Empire a Gŵyl Glastonbury gyda’i cherddoriaeth wreiddiol ac mae’n parhau i weithio ar ei hail albwm, yn ogystal ag ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer ffilmiau, gyda’i fersiwn o Road to Nowhere yn cael ei ddefnyddio yn y gyfres Amazon Prime, The Devil’s Hour.
A’r cyhoedd sy’n gwybod orau; dyma ymatebion ac adolygiadau gan y gynulleidfa o 2023:
“Mor gywir â hologram, mor real ag Amy” – Connor, Plymouth
“Mae Holly yn ymgorffori cerddoriaeth, arddull ac enaid Amy yn llwyr” – Kim, Torquay
“Dwi’n gweithio yn y byd teyrnged a dyna’r deyrnged orau i Amy Winehouse dwi erioed wedi’i gweld” – Steve, Bryste
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.