Yn cynnwys perfformiad arbennig ac arobryn gan Cheryl Hadley, mae Rogue Minogue yn deyrnged i’r Dywysoges Bop eiconig, gyda lefel ddigyffelyb o fanylion a dilysrwydd.
Mae’r sioe deyrnged yma yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith hiraethus, gan ddechrau o ddyddiau cynnar Kylie pan hudodd y byd gyda’i chaneuon cyntaf, yr holl ffordd i’w caneuon diweddaraf sydd wedi cyrraedd brig y siartiau. Mae’n ddathliad o’i gyrfa sy’n addo bod yn brofiad parti pop eithaf.
Wrth wraidd perfformiad Cheryl mae ymrwymiad i berffeithrwydd, gyda llais sy’n cyfleu sain nodweddiadol Kylie gyda manwl gywirdeb nodedig a phresenoldeb llwyfan sydd wir yn ymgorffori’r seren bop.
Yn ymuno â Cheryl mae ei dawnswyr Minoguette anhygoel.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.