Wedi’i ddisgrifio fel “Dyn y Dadeni mewn Byd Jazz”, mae medrusrwydd lleisiol a hyfedredd Sam Jewison ar y piano yn disgleirio mewn noson galeidosgopaidd o gerddoriaeth.
Mae’r canwr a phianydd yn cyflwyno ei ddehongliadau ei hun o lwyth o ganeuon clasurol, gan gynnwys “Night and Day”, “Cheek to Cheek”, “The Way You Look Tonight” a llawer mwy.
Mae cerddoriaeth a ysbrydolodd artistiaid arbennig fel Frank Sinatra, Ella Fitzgerald ac Oscar Peterson yn ymddangos ochr yn ochr ag uchafbwyntiau’r llwyfan a’r sgrin o “Hello Dolly!”, “West Side Story” ac, yn dathlu ei 80 mlwyddiant, “Carousel”.
Mae Jewison yn ymddangos yn syth o Ganolfan Lincoln Efrog Newydd a chyfres o sioeau werthodd allan yn y DU, gyda pherfformiadau yng Ngŵyl Jazz EFG Llundain, Neuadd Bechstein, Crazy Coqs a’r Tŷ Opera Brenhinol.
Hefyd, fe oedd prif perfformiwr Gŵyl ReGeneration 2020 yn Fflorens a Sioe Nadolig Arbennig BBC Radio 3 yn 2021, gan berfformio yn Nhŷ Opera Nevill Holt yn 2022 a Gŵyl Opera Ryngwladol Rame Lahaj ym Mhristina yn 2024.
“An evening of superlative performances” ~ Jazz Journal
“I have not had a better evening in the theatre in the last twelve months” ~ Yorkshire Times
Amser Dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.