Mae Janine Harouni, sydd wedi cael ei henwebu am Wobr Gomedi Caeredin ddwywaith, yn mynd ar daith gydag awr newydd sbon o stand-yp llawen a ffraeth.
Yn syth o daith ledled y byd – gan gynnwys rhediad Off-Broadway yn Efrog Newydd a pherfformiad yng Ngŵyl Netflix is a Joke yn LA – mae brodores Efrog Newydd yn dychwelyd gyda sioe siarp newydd am briodi, bod yn rhiant a’r holl gerrig milltir rhyfeddol eraill sy’n dirywio eich cwsg a’ch callineb yn araf.
Gyda fideos sydd wedi cael eu gwylio dros 10 miliwn o weithiau ar-lein, rhaglen arbennig ar Amazon Prime ac adolygiadau brwd, Harouni yw un o’r digrifwyr mwyaf gwefreiddiol sy’n gweithio heddiw.
Mae Harouni yn ymddangos yn rheolaidd ar raglenni teledu’r DU (Live at the Apollo, The Last Leg, The Russell Howard Hour, The John Bishop Show) ac mae wedi agor sioeau ar gyfer digrifwyr fel Michael Che ac Adam Rowe. Mae wedi ymddangos mewn ffilmiau a sioeau teledu fel Bob’s Burgers, The Franchise, Collette, Patrick Melrose, The People We Hate At The Wedding a The Batman.
'The smoothest of comics... a marvel'
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.