Haia cariad, rydyn ni ‘nôl!
Mae ‘Quill & Pearl’ yn cyflwyno noson ddisglair arall o gomedi, amrywiaeth a bwrlésg.
Mae strafagansa mis Tachwedd yn cael ei gyflwyno gan y storïwr profiadol Stage Door Johnny. Bydd e’n gwneud i chi wenu a chwerthin a byddwch chi yng nghledr ei law wrth iddo eich diddanu gyda phopeth o Shirley Bassey i Guns N’ Roses!
Yn ymuno â Johnny mae cast arbennig yn cynnig coctel cryf o gomedi, bwrlésg, syrcas, vaudeville a chân. Felly dewch yn barod i chwerthin, gadewch eich pryderon wrth y drws a pharatowch i fwynhau ‘The Pearl Revue’
I bobl dros 18 yn unig sydd ag ochr drygionus!
Stage Door Johnny (Cyflwynydd) – Merchetwr fflyrtiog a thelynegol
REIx (Bwrlésg) – Pelydr amryffurf o Heulwen
Sandy Sure (Vaudeville) – Merch sioe sosi, sili a swreal
Darryl J Carrington (Syrcas) – Digrifwas jyglo o safon fyd-eang
Mrs No Overall (Glanhäwr?!) – Ffenomenain Rhywiol
Oola Pearl (Bwrlésg Neo) – Clown rhagorol a charismatig
Cynhyrchwyd gan Quill & Pearl Presents
Noethni rhannol a rhywfaint o iaith gref.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref a noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.