Mae hi yma! Mae Elvis Lesley yn yr adeilad!
Ymunwch â’r digrifwr cymeriad arobryn Tracey Collins (Shell Suit Cher, Audrey Heartburn) wrth iddi ddod â’i sioe bingo gomedi gerddorol i Cabaret!
Ar ôl treulio’r ddegawd ddiwethaf yn gweithio wrth y tiliau yn Tesco, mae Elvis Lesley ar daith i droi’n ôl i oleuadau mawr y ddinas.
Gyda dim byd mwy na gwisg a gafodd ei chreu adref, caneuon doniol wedi’u hailddychmygu a drwgarfer o chwarae bingo.
A fyddan nhw’n llwyddo i ail-greu’r crychiad gwefusau enwog, y crŵn synhwyrus a’r coesau sigledig?
A fyddwch chi’n ennill gwobr fawr yn y bingo?
Dewch i ffeindio allan a gweld Elvis fel erioed o’r blaen!
Teilyngwr Act Newydd y Flwyddyn
Teilyngwr Gwobrau Comedi Cerddorol
Enillydd Newydd-ddyfodiad Gorau Gwobrau Cabaret Llundain
Enwebai Comedi Gorau Gwobrau West End Wilma
Credyd y ffotograffydd (C) Adam Moriarty
'There might be no funnier celebrity (mis)impersonator on UK stages right now'
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.