Shimi Goodman a Chris Hamilton yw Tiano, yr act Tenor a Phiano cyffrous.
Yn unigol maen nhw’n gerddorion campus, ond pan maen nhw’n uno, mae eu synergedd ar y llwyfan yn creu awyrgylch unigryw, trawiadol a hudol.
Mae Chris, a gafodd ei eni yng Nghaerdydd, yn berfformiwr, cyfansoddwr ac awdur geiriau arobryn. Pan roedd e’n tyfu i fyny, enillodd Chris y Rhuban Glas, y wobr fwyaf clodfawr i unigolion yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae hefyd yn cyfansoddi caneuon gyda Shimi, sydd wedi ymddangos mewn sioeau byd-enwog y West End fel Evita, Chicago a Dirty Dancing.
Mae eu rhaglen yn eclectig, yn amrywio o Albinoni i Tom Jones ac mae’n cynnwys medleion diddorol o ganeuon adnabyddus wedi’u trefnu gan Chris ar y piano ac wedi’u perfformio mewn harmoni perffaith.
Mae Tiano yn rhoi bywyd newydd i ganeuon cyfarwydd drwy eu huno â darnau piano clasurol adnabyddus. Yn ddiweddar mae Tiano wedi perfformio cyfres o berfformiadau a werthodd allan yn West End Llundain.
Dywedodd un adolygwr o gylchgrawn 2Shades: “It is an almost unthinkable scenario that Liberace and Pavarotti had secret love children, let alone that those children went on to inherit their fathers’ talents!”
Ymunwch â’r ddau berfformiwr yma o safon fyd-eang am noson fywiog o gerddoriaeth, rhamant a ffraethineb.
“It is an almost unthinkable scenario that Liberace and Pavarotti had secret love children, let alone that those children went on to inherit their fathers’ talents!” 2Shades Magazine
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.