Ymunwch â Charles a Di am fordaith gerddorol drwy gymanwlad ddiwylliannol yr 80au wrth iddyn nhw ailymweld â’r cyfnod pan roedd bywyd yn galed ond roedd y gerddoriaeth yn ddewr.
Gyda cherddoriaeth o Ultravox i Madness, o Billy Idol i Yazoo, bydd Charles a Di yn mynd â chi ar daith ‘nôl i’r ddegawd o ddirywiaeth a gofid.
Felly, archebwch eich coctels unwaith yn rhagor, gwisgwch bastelau a chribwch eich gwallt yn ôl. Ydyn, mae deuawd pop gorau’r byd ‘nôl!
Mae Tracey Collins, yr actores gomedi gymeriad tu ôl i Audrey Heartburn, Elvis Lesley a Shell Suit Cher, a Russell Lucas, cyd-greawdwr An Evening Without Kate Bush, Julie Madly Deeply ac o The Bobby Kennedy Experience, yn uno i ddod â pharti brenhinol yr 80au i’ch tref.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Age: 16+
Warnings: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.