Sounds Familiar yw’r cwis cerddoriaeth mwyaf a gorau yn y DU.
Mae’n gyfuniad perffaith o’ch hoff restr chwarae a’r parti gorau rydych chi erioed wedi bod iddi. Beth allwch chi ei ddisgwyl o gwis cerddoriaeth sydd wedi gwerthu allan Roundhouse Camden a chwarae gŵyl Glastonbury fwy o weithiau na David Bowie?
Byddan nhw’n cyflwyno rowndiau yn llawn bangars indie, R&B traddodiadol, clasuron o’r siartiau, cyfuniadau, baledi pwerus, pleserau euog a dros 100 o ganeuon gwych o’r 60au i’r presennol, i gyd mewn un cwis epig.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybudd: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.