Mae perthnasoedd yn gallu bod yn anodd – yn enwedig pan mae eich cariad newydd yn dduw hynaf sy’n llowcio bydoedd.
Dyma’r comedi cwiar tywyll iawn a digywilydd iawn am ramant rhyngddimensiynol condemniedig rhwng dyn a môr lawes-anghenfil-enfawr-o-tu-hwnt-i’r-sêr rydych chi wedi bod yn aros amdano. Dewch â hancesi*.
*[ar gyfer y sleim]
Mae SUCKER 4 U, a welwyd diwethaf yn The Pleasance fel rhan o’u tymor Mis Hanes LHDTC+ yn 2022, yn dilyn perfformiadau a werthodd allan yng Ngŵyl Arswyd Llundain, yn dychwelyd eleni – ac mae’n dod i Gaerdydd am un noson arswydus a gludiog yn unig!
ADBORTH/CANMOLIAETH/PRYDERON GAN GYNULLEIDFAOEDD BLAENOROL
‘Gwallgofrwydd llwyr – wrth fy modd.’
‘Camp a hudol.’
‘Doniol a thwymgalon.’
‘Wedi newid fy mywyd… sai’n siŵr os yw hynny mewn ffordd dda.’
‘Chwantus.’
‘Dyw calamari ddim cystal â’r pryd blasus yma.’
‘Rhaid ei weld.’
‘Dryslyd ac erotig.’
‘Yn rhyfedd o brydferth.’
‘Pam?’
‘Dwi wir yn poeni am y bachgen yna.’
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.