Mae sioe deyrnged orau’r DU, fel y pleidleisiwyd gan Gymdeithas Asiantau Prydain Fawr am dair blynedd yn olynol, yn dod i Cabaret yn syth o Theatr Leicester Square Llundain, yr O2 a pherfformiad gorchymyn brenhinol.
Mae David Alcey (Lovejoy ac Inspector Alleyn) yn serennu fel Frank Sinatra ochr yn ochr â Ashley Campbell (Hollyoaks ac Emmerdale) fel Sammy Davis Jnr a pherfformiwr y West End Tim Harwood fel Dean Martin yn y sioe sy’n dathlu ei 25 mlwyddiant. Gyda’i gilydd maen nhw’n rhyfeddu cynulleidfaoedd wrth iddyn nhw ail-greu cerddoriaeth Sinatra, Martin a Davis mewn sioe anhygoel sy’n dod ag arddull a chyffro Las Vegas yn fyw. Yn cynnwys yr holl ganeuon gwych – My Way, Mr Bojangles, New York New York, Amore a Come Fly With Me!
Mae’r sioe hefyd yn cynnwys Cyfarwyddwr Cerddorol y BBC Mac Shone wrth y piano ochr yn ochr â’r Buddy Greco All-Stars. Roedd gwesteion arbennig yn arfer ymuno â Frank, Dean a Sammy ar y llwyfan yn The Sands, a bydd yr elfen honno o hud theatraidd yn cael ei ail-greu yn y sioe yma gydag ymddangosiadau gan bobl fel Marilyn Monroe, Nancy Sinatra a Liza Minnelli yn ychwanegu hyd yn oed mwy o glamor at y cynhyrchiad cain yma.
Dyma sut mae creu atgofion!
“We may never see such greats as Frank, Dean and Sammy again in our lifetime but the good news is that as long as such talented impersonators as these continue to exist, we may not need to”
Amser Dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.