Mae pawb yn dwli ar ddihiryn…
ond ydyn nhw? Byddwch yn barod am noson arbennig y Calan Gaeaf yma wrth i West End Best Friend gyflwyno ‘I Screamed a Scream’, cyngerdd yn cynnwys caneuon gan y dihirod gorau o’r llwyfan a’r sgrin.
O faledi barbaraidd adnabyddus i ganeuon arswydus llai adnabyddus, gwnewch eich hunain yn ‘anghyfforddus’ ar ymyl eich seddi wrth i berfformwyr dychrynllyd o dda o’r diwydiant theatr gerdd eich arwain drwy oriel gelf ddrwg o diwns â chalon ddu.
Pam dylech chi ddod? Achos fel mae pawb yn gwybod, mae bod yn ddrwg yn teimlo mor dda…
Amser Dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.