Dewch i weld eich hoff difas ar y llwyfan gyda’r gilydd, ar ffurf y perfformiwr rhyngwladol canmoladwy, Christina Bianco.
Drwy ddynwarediadau anhygoel a’i llais esgynnol ei hun, mae Christina yn dathlu rhai o ddifas cerddorol mwyaf eiconig y byd o ddoe a heddiw, tra ei bod hi hefyd yn goleuo’r llwybr a’i harweiniodd i ddod o hyd i’w llais ei hun. Yn syth o’i chyfnod yn chwarae The Narrator yn nhaith ddiweddaraf ‘Joseph…Dreamcoat’, peidiwch â cholli’r perfformiwr doniol arobryn yma sydd â llais pyrotechnegol!
"Must we trot out the phrase Tour De Force? Yes. We must! Bianco's work is something to see"
"Bianco is something akin to a one woman orchestra"
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.