Noson o ganeuon teimladwy, jazz bywiog a fersiynau ffres o glasuron modern!
Mae’r canwr a’r aml-offerynnwr Elijah Jeffery, sydd wedi cael ei ganmol am ei eiriau barddonol a deallus, yn ymuno â’r pianydd canmoladwy Eddie Gripper, y cafodd ei albwm cyntaf Home ei gymharu â’r goreuon. Gyda’i gilydd, maen nhw’n cyflwyno perfformiad sy’n uno genres, gan gyfuno pop blaengar a jazz amgen â swyn diamser ‘Llyfr Caneuon Mawr America’.
Gallwch chi ddisgwyl dehongliadau bywiog o jazz cyfnod y Rat Pack, clasuron modern wedi’u hailddychmygu, a chaneuon gwreiddiol newydd sbon, gan gynnwys uchafbwyntiau o’u halbwm cydweithredol hir ddisgwyliedig – sydd â saith cyfansoddiad newydd ac addasiad syfrdanol o aria o’r 17eg ganrif.
Peidiwch â cholli’r noson yma o swing soffistigedig, straeon twymgalon a gallu cerddorol hudolus!
Elijah Jeffery - Llais
Eddie Gripper - Piano
Nick Kacal – Bas Dwbl
Patrick Barrett-Donlon – Drymiau
Anser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.