Mae’n fis Tachwedd, pa ots? Rydyn ni’n llawn cyffro ac mae’n ddigon agos i’r Nadolig!
Yfory bydd hi’n Nadolig Llawen i Chi Gyd, felly dewch i mewn a helpwch ni i addurno. Gwnewch hyn y Nadolig Gore Erioed gyda Vaguely Deviant!
Ymunwch â ni ar gyfer pumed strafagansa arddangos House of Deviant (Fflamingo CIC) a Vaguely Artistic (Hijinx), lle mae anhrefn a gliter yn teyrnasu. Gwisgwch eich dillad gorau a’ch esgidiau dawnsio, achos yn ôl pob sôn, mae gan goblynnod Sion Corn wobrau i bawb ar y rhestr ddrwg dda…
Gwyddom mai’r cyfan rydych chi eisiau Nadolig yw tocyn i… The Vaguely Deviant Not Quite Christmas Christmas Show!
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.