Mae’r gantores cabaret ryngwladol Violet Duff yn cyflwyno’r sioe deithiol arobryn ‘Violet’s Vaudeville Vault’ (Rhestr fer SIOE ORAU Gwobrau Seagull Gŵyl Ymylol Brighton 2024).
Rydyn ni’n llawn cyffro i ddod â’n sioe Calan Gaeaf ‘Ghouls Night Out’ i Ganolfan Mileniwm Cymru.
Gallwch chi ddisgwyl triniaeth feddyliol fygythiol, sgiliau syrcas iasoer, sioe ochr ysblennydd, dewiniaid erchyll, bwrlésg bwystfilaidd a llawer mwy...
Dewch ar daith ‘nôl mewn amser i fwynhau sioe amrywiaeth vaudeville draddodiadol a chythryblus. Yn cynnwys rhai o’r actau syrcas, amrywiaeth a bwrlésg rhyngwladol gorau yn y byd. Byddwch chi ddim eisiau colli eich taith i ddyfnderau daeargell vaudeville Violet.
Amser Dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith Gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.