Tretiwch eich hun i noson allan ffraeth a doniol wrth i’r digrifwr Andrew White fynd â’i rodeo stand-yp allan ar daith ar gyfer taith genedlaethol soffomor.
Wedi’i ddisgrifio gan Joe Lycett fel ‘cyffrous iawn a doniol iawn’, mae Andrew wedi datblygu enw da am ei ysgrifennu cryf a’i bersona dymunol ar y llwyfan, gan fynd i’r afael â phynciau mawr gydag ymosodiadau dirmygus, a thrafod nonsens gydag obsesiwn gor-ddadonsoddol. O wleidyddiaeth buffets popeth y gallwch fwyta i ddiffygion technolegol pobl hiliol, y sioe yma yw’r union noson allan ddisglair, ffasiynol, ddoniol a di-flewyn-ar-dafod rydych chi wedi bod yn chwilio amdani!
‘Charisma to burn and an eye for sharp punchlines’
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.