Rhowch theatr fyw anhygoel yn anrheg i’ch mam ar Sul y Mamau eleni.
O sioeau cerdd yn llawn caneuon pop i ddrama emosiynol, mae rhywbeth i bob mam sy’n hoffi theatr ei fwynhau. Dyma restr i’ch ysbrydoli.

Matthew Bourne’s Swan Lake
22 – 26 Ebrill 2025
O £18
Gwnaeth ailddychmygiad mentrus a beiddgar Matthew Bourne o gampwaith Tchaikovsky greu cyffro pan agorodd bron i 30 mlynedd yn ôl. Mae bellach wedi dod yn un o’r cynyrchiadau theatr dawns fwyaf llwyddiannus erioed, gan greu cynulleidfaoedd newydd ac ysbrydoli cenedlaethau o ddawnswyr ifanc. I ddathlu’r effaith barhaus honno, bydd Swan Lake yn dychwelyd unwaith eto mewn adfywiad newydd mawr ar gyfer y genhedlaeth nesaf o ddawnswyr, ac i gynulleidfaoedd a fydd yn ei brofi am y tro cyntaf erioed.

Cruel Intentions: The ‘90s Musical
28 – 31 Mai 2025
O £18
Yn seiliedig ar y ffilm eiconig ac wedi’i hysbrydoli gan Les Liaisons Dangereuses, mae’n llawn clasuron pop y 90au gan gynnwys caneuon gan Britney Spears, Boyz II Men, Christina Aguilera, TLC, R.E.M., Ace of Base, Natalie Imbruglia, The Verve, *NSYNC a llawer mwy! Dyma noson allan eithaf y 90au.

& Juliet
16 – 28 Mehefin 2025
O £19
Dewch ar daith anhygoel wrth i Juliet gefnu ar ei diweddglo enwog i gael dechreuad newydd a chyfle arall i fyw a syrthio mewn cariad – yn ei ffordd hi. Mae stori newydd Juliet yn dod yn fyw drwy restr chwarae o anthemau pop, gan gynnwys Baby One More Time gan Britney Spears, Roar gan Katy Perry a chaneuon eraill a gyrhaeddodd frig y siartiau fel Since U Been Gone, It’s My Life, Can’t Stop the Feeling a mwy – i gyd gan Max Martin, y cyfansoddwr caneuon/cynhyrchydd talentog sydd tu ôl i fwy o ganeuon #1 nag unrhyw artist arall y ganrif yma, a’i gydweithredwyr.

Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat
22 – 27 Gorffennaf 2025
O £17
Gydag enillydd X-Factor Joe McElderry yn codi'r to fel Pharaoh, mae cynhyrchiad llwyddiannus y London Palladium o Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat gan Tim Rice ac Andrew Lloyd Webber yn dod i Gaerdydd!

Queen of the Night - A Tribute to Whitney Houston
8 Awst 2025
O £23
Mae Queen of the Night - A Tribute to Whitney Houston yn ddathliad syfrdanol o gerddoriaeth a bywyd un o’r cantorion mwyaf enwog, anhygoel a fu erioed. Ymunwch a ni am noson fythgofiadwy wrth i ni dalu teyrnged i’r Frenhines Pop gyda chast anhygoel a band byw arbennig.

Nye
22 – 30 Awst 2025
O £19
O ymgyrchu yn y meysydd glo i arwain y frwydr i greu’r Gwasanaeth Iechyd, cyfeirir at Aneurin ‘Nye’ Bevan yn aml fel y gwleidydd sydd wedi cael y dylanwad mwyaf ar y DU heb erioed fod yn Brif Weinidog. Mae Michael Sheen (Good Omens) yn dychwelyd i chwarae Nye Bevan yn y ddrama yma sy’n ddatganiad dewr a gwerthfawr am y GIG (★★★★ Telegraph).
Gormod o ddewis? Beth am gael Tystysgrif Rhodd? Gallwch chi ei defnyddio ar gyfer unrhyw un o’n sioeau sydd ar y ffordd neu yn ein bariau theatr, ac maen nhw’n ddilys am 12 mis.
Chwilio am rodd hollol unigryw i anrhydeddu anwylyd? Enwch sedd yn ein Theatr Donald Gordon a helpwch i danio ein dyfodol. Dysgwch fwy.