Ar ôl ennill y categori Cabaret Gorau yng Ngwobrau Wythnosol Gŵyl Ymylol Adelaide 2024 ac yn dilyn perfformiadau a werthodd allan yn rhyngwladol, mae Brenhines Cabaret Awstralia yn barod i syfrdanu cynulleidfaoedd gyda’i pherfformiad gwefreiddiol, gan ailddychmygu clasuron bandiau mawr mewn fersiynau modern amheus.
Gyda llais pwerus, ffraethineb siarp a phresenoldeb ffrwydrol ar y llwyfan, mae Skank Sinatra yn datgelu ei thaith wyllt o glybiau jazz myglyd Efrog Newydd i strydoedd Melbourne, o cabaret tanddaearol Berlin i safanau De Affrica.
Gyda chanu byw, gwisgoedd anhygoel, chaneuon cofiadwy a hiwmor craff, Skank Sinatra yw’r sioe sy’n gwneud i gynulleidfaoedd ledled y byd wenu o glust i glust.
“Skank Sinatra is sassy, sexy and sensational”
Start dechrau: 8pm, doors 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Mae'n bosib bydd y sioe'n cynnwys iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.