Namaste Motherf*ckers yw’r sioe newydd gan Cally Beaton (QI, Live at the Apollo) – cipolwg ffraeth, annisgwyl a heb ymddiheuriad ar fywyd yng nghanol bywyd.
Gan gyfuno medrusrwydd Cally i fod yn ddoniol ac adrodd straeon â detholiadau o’i llyfr pryfoclyd o’r un enw sy’n chwalu stereoteipiau, wrth wraidd y sioe mae ei stori ei hun am ailddyfeisio radical – sy’n mynd â hi o gyfarfodydd mewn ystafelloedd bwrdd i gamu ar y llwyfan, diolch i sgwrs ddamweiniol gyda’r diweddar Joan Rivers. Fel sioe ddoniol am bwnc hynod ddifrifol, mae Namaste Motherf*ckers yn ddathliad o ac ar gyfer benywod y rhywogaeth. Ddim yn anweledig mwyach. Mae’r sioe yn cynnwys sesiwn holi ac ateb a chwrdd a chyfarch gyda Cally (pwy â ŵyr, efallai fydd Jeff y ci rhyfeddol yno hefyd).
[Credyd llun - Natasha Pszenicki]
'Exciting and hilarious talent…she’s got it'
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.