Fel cartref creadigol i bawb:
Rydyn ni’n cynnau cysylltiadau drwy ddathlu creadigrwydd yn ein gofodau.
Rydyn ni’n meithrin talent drwy rannu cyfleoedd creadigol a datblygu sgiliau.
Rydyn ni’n ehangu gorwelion drwy greu profiadau hudol i bawb.
Cyfleoedd creadigol
Rydyn ni am gefnogi artistiaid, pobl ifanc a chymunedau i ddarganfod eu llais a rhannu eu storïau. Credwn fod gan greadigrwydd y pŵer i drawsnewid bywydau ac y dylai pawb gael cyfle i gymryd rhan.
Profiadau creadigol
Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy greu cynyrchiadau digidol a byw, gŵyl ryngwladol a rhaglen egnïol o ddathliadau diwylliannol a phrofiadau ieuenctid. Ochr yn ochr â hyn rydyn yn dod â rhaglen ddiwylliannol amrywiol o ddigwyddiadau a phrofiadau i Gymru – o sioeau cerdd, comedi a dawns arobryn i sioeau cabaret sy’n torri tir newydd.
Ein hymrwymiadau
Rydyn ni’n credu mewn creu mannau diogel, cynhwysol sy’n ennyn cysylltiadau a llawenydd ac yn meithrin ymdeimlad o berthyn, yn ogystal â sicrhau bod y celfyddydau yn agored i bawb.
Rydyn ni hefyd yn blaenoriaethu ein map ffordd sero net er mwyn parhau i ysbrydoli, hyfforddi a chroesawu cenedlaethau’r dyfodol.
Ein hadeilad a’n pobl
Darganfyddwch fwy am ein hadeilad eiconig a’r straeon cudd sy’n rhan annatod ohono, yn ogystal â’r bobl a’r sefydliadau sy’n tanio’i greadigrwydd. Darganfyddwch sut y gallwch chi fod yn rhan ohono, drwy ein cyfleoedd gyrfaol.
MAE CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN ELUSEN GOFRESTREDIG. MAE EICH CEFNOGAETH YN EIN HELPU NI I DANIO DYFODOL CREADIGRWYDD YMA YNG NGHYMRU.