Fe’ch gwahoddir i ddathliad unigryw gyda Chlwb Cabaret Caerdydd.
Mae’r ferch ben-blwydd FooFoo LaBelle yw’r cyflwynydd yn ei pharti ei hun ym mis Tachwedd. Bydd hi’n gweini cacennau, anrhegion a glamor gyda rhestr gwesteion o berfformwyr disglair a fydd yn eich syfrdanu gyda’u triciau yn y parti bwrlésg yma.
Noson o gomedi, gemau, gwobrau, stripio a syrpreisys.
Bydd sylfaenydd Clwb Cabaret Caerdydd FooFoo LaBelle yn cyflwyno parti/perfformiad anhygoel gyda sêr gwadd o bob cwr o’r wlad gan gynnwys y ‘glamourpusses’ Miss Baby Daisy a Miss Swoon, arddulliau doniol a rhywiol Khesi Kobler a’r eicon ‘bump ‘n’ grind’ Vanity Dare.
Yn cyflwyno’r bwrlésg gorau o bob rhan o’r DU, ac yn llwyfannu doniau Cymreig, mae Clwb Cabaret Caerdydd wedi bod yn cynhyrchu sioeau yng Nghymru am dros 16 mlynedd. Noson wych, yn sicr.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.