Yn adnabyddus ledled y byd am eu doniau arddangos ysblennydd yn llawn egni, eu fideo feirol Bring Me Sunshine ac am fod y band byw cyntaf i gyrraedd rowndiau terfynol Britain’s Got Talent, mae The Jive Aces wedi sefydlu eu hunain fel band jeif a swing pennaf y DU.
Mae’r chwechawd poblogaidd yn gwneud 300 o sioeau’r flwyddyn ar gyfartaledd ac maen nhw wedi gweithio gyda Van Morrison, Keely Smith ac wedi perfformio ar gyfer Ei Mawrhydi y Frenhines. Maen nhw wedi gwerthu allan y Royal Albert Hall a miloedd o wyliau, theatrau, neuaddau dawns ac ati mewn 36 o wledydd, gan gynnwys Palas Buckingham ar gyfer Gŵyl y Coroni, Trafalgar Square ar gyfer y Gemau Olympaidd a theithiau theatr mawr yn UDA.
Mae’r albwm newydd Keeping The Show On The Road yn dathlu’r caneuon sydd wedi dod yn ffefrynnau byw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf ac mae’r band wedi ceisio rhoi egni profiad byw yn y recordiad, ac mae ar gael ar CD a finyl a llwyfannau digidol. Mae caneuon o’r albwm wedi cael eu cynnwys ar y BBC, Boom Radio a chyrhaeddodd La Vie En Rose rif 1 yn Siart Dreftadaeth Mike Read!
Cafodd eu perfformiad yng Ngŵyl Glastonbury 2015 ei restru gan y Daily Telegraph fel un o uchafbwyntiau’r ŵyl.
Syfrdanodd The Jive Aces y beirniaid ar Britain’s Got Talent gyda’u fersiwn anhygoel o I Wanna Be Like You, a gododd calon Simon Cowell. Mae eu perfformiadau BGT wedi cael eu gwylio gan dros 20 miliwn o bobl.
Mae eu fideo cerddoriaeth mwyaf poblogaidd Bring Me Sunshine yn llwyddiant feirol; mae wedi cael ei wylio dros 3 miliwn o weithiau ar YouTube ac wedi ennill saith gwobr gwyliau ffilm. Mae mor dwymgalon mae wedi cael ei ragnodi gan feddyg!
Maen nhw wedi ymddangos yn y cyfryngau gannoedd o weithiau, gan gynnwys cyfnod preswyl ar BBC Radio London a sioeau teledu fel The Alan Titchmarsh Show, Strictly Come Dancing, Children in Need a Good Day Los Angeles.
Amser dechrau: 8pm, Drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.