Profiad Theatraidd Seicedelig Newydd Sbon
Paratowch i ailysgrifennu eich realiti…
Yn dilyn sioeau a werthodd allan ledled y byd, mae Ben Hart yn dychwelyd gyda sioe newydd sbon – yr un mwyaf rhyfeddol ac amhosibl eto.
Mae Ben Hart, llais hollol unigryw yn y byd hud, yn cyfuno straeon gafaelgar, ffraethineb siarp a chyfaredd ddiamheuol i greu sioeau hud sy’n fythgofiadwy, hwyl, tywyll a thra annealladwy.
Y tro hwn, nid dim ond hud yw e – mae’n wir.
Yn The Remarkable Ben Hart, gwyliwch feistr twyllau o safon fyd-eang wrth iddo ddarllen eich meddwl, trin cyfansoddiad bodolaeth a phlygu rhesymeg i’w ewyllys. Gyda dim ond ei ddwylo, ychydig o wrthrychau syml a’i alluoedd meddyliol rhyfedd mae wedi’u darganfod yn ddiweddar, bydd Ben yn edrych i mewn i’ch meddyliau, rheoli siawns a gwneud i’r amhosib ddigwydd o flaen eich llygaid. Gwyliwch ei weithredoedd amhosibl yn fyw ar y llwyfan – heb unrhyw driciau camera nac unrhyw le i guddio.
Hud? Seicoleg? Neu ydy Ben Hart wedi darganfod rhywbeth llawer mwy nodedig?
Mae un peth yn sicr – byddwch chi byth yn gweld y byd yn yr un ffordd eto.
Fel y gwelwyd yn y West End ac yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, mae Ben Hart yn ddewin arobryn (fel y gwelwyd ar Britain’s Got Talent, The One Show, Killer Magic a ‘Life Hacks’ ar y BBC) ac mae’n ymgynghorydd hud i ffilmiau Hollywood mawr – mae wedi hyfforddi Tom Cruise, Rami Malek a Russell Crowe i enwi ond ychydig.
“Brilliant… smart, sharp and skilled”
Amser Dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.