Canllaw anghenfil ar gyfer goddefgarwch a chymedroldeb. Gall Jess deimlo ei hun yn dod yn gnw emosiynol pan mae ei byd hi (a’r byd cyfan, diolch) yn gofyn am garedigrwydd a dealltwriaeth cŵl, hunanfeddiannol, hynod ar wahân, fel saint. S**t.
Mae hi’n pori drwy ei DNA i gael atebion ac yn dod o hyd i gymaint o arswyd prydferth. Dewch i fod yn dyst i’w hymdrech i fod yn ‘ymdopwr’ newydd sbon cyfriniol. NEU BEIDIO. Mae hi’n cael ei chanslo, mae’n cael ei chyffwrdd ac mae’n cael epiffani yn seiliedig ar ddolffin i gyd mewn un sioe. Y comedi mwyaf sili ar gyfer y diwrnodau mwyaf brawychus gan un o Enwebeion Gwobr Sioe Orau Caeredin.
Rydych chi wedi gweld Jess ar QI, Live at the Apollo, Celebrity University Challenge a Richard Osman’s House of Games ar y BBC. O Travel Man ar C4 a World’s Most Dangerous Roads ar Dave. Rydych chi’n ei hadnabod o’i dwy gyfres o Sturdy Girl Club ar BBC R4 yn ogystal â’r podlediadau The Guilty Feminist a Hoovering. Ac, wrth gwrs, o’r podlediad llwyddiannus i ffans o Gladiators Contender Ready y mae Jess yn ei gyd-gyflwyno gyda seren codi pwysau’r Gemau Olympaidd, Emily Campbell.
‘A new fiercely funny strain of comedy that’s her own’
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.