Mae Pinch Punch yn eich croesawu i Locomotive for Murder: The Improvised Whodunnit, dirgelwch doniol a hollol fyrfyfyr lle mae lladd y cast a datrys yr achos yn eich dwylo chi. Gallwch chi ddisgwyl alibïau sigledig a ditectifs â thafodau arian ynghyd â gwefr a lladd hen ffasiwn.
Mae pedwar cymeriad yn teithio ar drên, ond ni fydd pawb yn goroesi… Diolch byth, mae ditectif byd-enwog yno hefyd, yn barod i ddatrys yr achos.
Ond pwy yw’r llofrudd? Dim ond un person yn y sioe sy’n gwybod – y llofrudd ei hun! Allwch chi helpu’r ditectif i ddatrys yr achos?
Gan ddefnyddio straeon ac awgrymiadau’r gynulleidfa, gwyliwch Pinch Punch yn creu sioe unigryw na fydd byth yn cael ei hailadrodd. Os ydych chi’n dwli ar gomedi neu ddirgelwch, dyma’r sioe i chi!
“A first class improvised murder mystery with hilarious performances”
Amser Dechrau:
19 Gorffennaf- 8pm, drysau 7pm
20 Gorffennaf- 3pm, drysau 2pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar y byrddau drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.