Cyflwyno’r esblygiad nesaf yn Cabaret…
Teithiwch gyda ni i jynglau trofannol Isla Bae Caerdydd, lle mae gwyddoniaeth a drag wedi uno i ddod ag oes dinosoriaid yn rhuo ‘nôl yn fyw.
Yn dathlu masnachfraint anhygoel JURASSIC PARK, bydd ein criw ardderchog o gewri cabaret yn gwneud i chi sgrechian mewn arswyd, rhyfeddod a phleser.
Secwinau! Cennau! Dannedd! Gwychder! Camp! Cretasig!
Chwyddwch eich ffriliau, sgleiniwch eich crafangau a pharatowch i ysgwyd eich cynffon yn y noson amrywiaeth fendigedig yma gyda LLAWER o gnoi.
Fe welwn ni chi yn yr agoriad swyddogol!
Nawr mae jest angen i ni drwsio’r ffensys trydan yna...
Dr. J Hammond
CEO, InGen[derqueer] Corp.



From the creators of the sellout smash Gallifrey Cabaret.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.