Neidiwch ar fwrdd TARDIS mwyaf cwiar gofod ac amser am noson o ddrag a cabaret cosmig, a’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan y sioe deledu orau yn y bydysawd – DOCTOR WHO.
Ar ein teithiau drwy’r fortecs amrywiaeth, paratowch am noson o adloniant allfydol sy’n cynnwys lein-yp rhyngserol, llawer o syrpreisys a’r holl anhrefn cosmig y gallech chi freuddwydio amdano...
Fel bob amser gyda’r Doctor – disgwyliwch yr annisgwyl…
Mae ein teclynnau fortecs wedi’u gwefru, mae ein sonics yn barod i gael eu sgriwdreifio. Rydyn ni’n mynd i ddinistrio’r llawr dawnsio, achos does dim un parti fel parti Brenin Amser. Mae’r dyfodol yma, ac mae’n ddyfodol cwiar!
"Captivating and hilarious... I can't rave enough!"





"Celebrates Doctor Who in the most fun, feel-good way possible, in a space where everyone is welcome"
"Woke nonsense"
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, themâu i oedolion, noethni rhannol, synau uchel, goleuadau sy’n fflachio/symud, tawch
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.