Mae Cabaret Provocateur yn dod â’i sioe syfrdanol a werthodd bob tocyn i Gymru am y tro cyntaf erioed!
Paratowch ar gyfer noson fythgofiadwy sy’n cynnwys y bwrlésg gorau, drag cyffrous a pherfformwyr syrcas anhygoel yn syth o Lundain. Caerdydd, byddwch yn barod – dyma sbectacl na fyddwch chi eisiau ei golli! Wedi’i gyflwyno gan y ddigyffelyb Dawn Gracie, mae’n dathlu prydferthwch, dewrder a disgleirdeb!
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref; noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.