Comedy Couture, strafagansa ddiweddaraf Sherry yn dathlu 35 mlynedd o Sherry Vine.
Mae'r sioe NEWYDD yma yn cynnwys parodïau o Chappell, Tina Turner, U2, Broadway, Celine, Cher a mwy.
Ar ôl ei sioe pen-blwydd carreg filltir yn 2024, mae Sherry yn gwneud sioe iawn o 2025. Comedi, drama, fideos doniol, gwisgoedd cyfareddol, wigiau merch sioe a rhai syrpreisys. Peidiwch â cholli’r sioe epig yma gan un o sêr arweiniol y byd drag comedi!
"The Stephen Sondheim of drag”
“…captures the camp and crass, the glamour and gross, the humor and heart that has been Sherry’s specialty since she put on a wig.”
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.