Croeso i The Pearl Revue!
Mae’r cwmni cynhyrchu o Gymru Quill & Pearl yn falch o gyflwyno sioe amrywiaeth gomedi newydd sy’n cynnwys coctel disglair o stand-yp, vaudeville, syrcas a bwrlésg.
Mae lein-yp lliwgar mis Gorffennaf yn cael ei gyflwyno gan Max Fulham ochr yn ochr â rhai o’r perfformwyr gorau ym myd cabaret y DU. Mwynhewch ddewiniaeth hudol gan The Sisters Dare, dawnsio bol hypnotig gan Sofeya, hwla hwpio anhygoel gan ddeiliad Record Byd Guinness Chi Chi Revolver, piffian a phryfocia gan y digrifwyr bwrlésg Ezme Pump ac Oola Pearl, yn ogystal â sesiwn ganu aflafar a stori neu ddau gan berthynas lliwgar y seren vaudeville Lena Lenman, sef Aunty Mae!
Gallwch chi ddisgwyl glamor, gliter a’r lefel gywir o ddrygioni. Mynnwch eich tocyn nawr!
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref; noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.