“All the world’s a stage” – gadewch i ni ei amddiffyn.
Mae Janie Dee, seren y West End sydd wedi ennill Gwobr Olivier ddwywaith (The Motive and the Cue a Follies - National Theatre; Stephen Sondheim’s Old Friends - Gielgud Theatre), yn wynebu argyfwng yr hinsawdd ac yn dathlu ein byd prydferth, drwy ganeuon a gair llafar. Yn anarferol ac ysbrydoledig, mae’r tro gwyrdd yma ar cabaret clasurol yn gofyn sut y gall pob un ohonom ni wneud gwahaniaeth yn y frwydr dros ein planed. Chwareus, radical, llawn gwybodaeth, ac yn y pen draw, gobeithiol.
Janie sy’n dyfeisio, cynhyrchu a pherfformio’r cabaret yma sy’n dathlu natur a’r blaned, tra ei bod hi’n tynnu sylw at y bygythiad tuag atyn nhw gan y newid yn yr hinsawdd.
Yn syth o berfformiadau llwyddiannus yng Ngŵyl Ymylol Caeredin, Abaty Wenlock a lleoliadau yn Llundain a rhanbarthol, bydd Beautiful World Cabaret yn swyno, addysgu ac yn diddanu.
Mae Janie Dee yn actores, cantores a pherfformiwr theatr gerdd arobryn, sy’n nodedig am ei gallu amryddawn anhygoel mewn gwaith llwyddiannus ar y llwyfan, mewn ffilm, ar y teledu ac ar y radio.
Mae clodrestr theatr ddiweddar Janie yn cynnwys Dirty Rotten Scoundrels in Concert (London Palladium), Stephen Sondheim’s Old Friends (Gielgud Theatre), The Motive and the Cue a Follies (National Theatre), a Desiree yn A Little Night Music (Palace Theatre London, Buxton Opera House, Holland Park Opera). Mae wedi cael partneriaethau artistig llwyddiannus gyda Stephen Sondheim, Alan Ayckbourn, Harold Pinter, a Peter Hall. Mae ei chlodrestr teledu ddiweddar yn cynnwys You and Me (ITVX) a’r rôl ganolog Clara Rushton yn The Burning Girls (Netflix) sy’n rhif 3 yn rhestr 10 drama uchaf y gwasanaeth ffrydio.
‘Is there a more enchanting actress on the British stage than Janie Dee?’
The Times
'Passionately green... hilarious... pure class.'
Musical Theatre Review
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Age: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.