Yn dilyn sioeau a werthodd allan yn y Soho Theatre, Llundain a Gŵyl Ymylol Caeredin, mae AUTISM MAMA gan Josephine Lacey yn mynd ar daith ledled y DU.
Croeso i fyd mam, sy’n gofalu am arddegwr yn y glasoed – sy’n digwydd bod yn awtistig.
Sioe stand-yp gyfareddol a doniol am fam sengl yn arwain ei mab awtistig drwy gamau cyntaf y glasoed. Gallwch chi ddisgwyl cymhorthion gweledol, balŵns a mewnwelediad twymgalon i’r berthynas rhwng mam a’i mab. Sioe na ddylech chi ei cholli!
‘It is quite unlike anything you’re likely to see whether it’s classed as theatre or comedy – and absolutely unmissable"
"While delighting and shocking the audience, Josephine Lacey’s comedy special overwhelmingly rings with maternal love."
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.