Mae teyrnged ddoniol ac ymdrochol i seren fwyaf eiconig Hollywood yn aros amdanoch chi! Ymunwch â ni am daith emosiynol drwy fywyd Duwies anfarwol America.
Gan aros yn ffyddlon at bersona amrywiol Marilyn Monroe fel actores, cantores a digrifwraig, mae Isabella Bliss yn mesmereiddio cynulleidfaoedd gyda’i chanu, straeon a hiwmor ffraeth. Gyda thebygrwydd rhyfeddol a phersonoliaeth sy’n atseinio’r seren ei hun, mae’n cyflwyno un o’r profiadau Marilyn mwyaf awthentig y gallwch chi ei ddychmygu.
Gyda chefnogaeth band byw pedwar aelod, paratowch ar gyfer setiau hudolus yn llawn caneuon ysblennydd a newidiadau gwisgoedd disglair Marilyn, gan gynnwys clasuron diamser fel “Diamonds Are a Girl’s Best Friend” ac “I Wanna Be Loved By You”.
Rhwng caneuon, mae Marilyn yn ymgysylltu â’r gynulleidfa drwy rannu hanesion doniol a mewnwelediadau i uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd fel symbol rhyw pennaf Tinseltown. Byddwch yn barod am sgetsys comedi rhyngweithiol, sy’n gwahodd cyfranogiad gan y gynulleidfa a digonedd o chwerthin.
Canwch gyda’r clasuron, rhannwch ddiod ac ymdrochwch eich hun yn y profiad digyffelyb o fyd Marilyn Monroe.
“She looks like Marilyn, she sounds like Marilyn, and after a few seconds I truly believe she is Marilyn.”
“funny and witty…charismatic and charming.. she had the audience in the palm of her hand”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau o 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.