Paratowch ar gyfer Tonguing, sioe newydd traws-genre sy’n archwilio cysylltiadau a chyfathrebu, wrth i Carys Eleri ddod â’i brand craff o gomedi’n fyw trwy wyddoniaeth a chaneuon.
Daw’r archwiliad difyr yma o fecaneg yr ymennydd ac ymchwil wyddonol fanwl yn fyw trwy straeon gwallgo, animeiddio hynod a ffrwydrad eclectig o ganeuon sy’n amrywio o electronica i ganeuon ffliwt canoloesol gydag ychydig bach o fetel trwm ar hyd y ffordd, mae Tonguing yn archwilio sut mae cysylltiadau dynol yn llywio popeth, o’n hymennydd i’n cyrff, a sut y gall dibyniaeth gynyddol ar y sffêr ddigidol ein hamddifadu rhag cysylltiadau dynol go iawn.
Galwad yw hi i symud y tu hwnt i’r platfformau ar lein sydd wedi ein hynysu wrth ein gilydd, a hybu’r grefft o sgwrsio, wyneb yn wyneb, gan edrych ym myw llygaid ein gilydd – ‘IRL’
Gyda cyngor Dr Simon Fisher (‘Beyonce niwrowyddoniaeth’ yng ngeiriau Carys), a’r athro Dean Burnett (awdur The Happy Brain), mae Carys – a chreodd Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff - yn dod â Tonguing, sioe newydd sbon i gynulleidfaoedd, ac yn eu harwain ar siwrnai ddigri trwy ryfeddodau hynod a hyfryd y meddwl dynol.
Trafodwch. Tafodwch.
Enillydd Gwobr y Cabaret Gorau – Gŵyl yr Adelaide Fringe
Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)
“Carys explodes into song like a modern day love-witch Pavarotti”

“Charismatic and vulnerable, Eleri weaves jokes, music and insights from multiple disciplines to weave a new kind of magic”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Sul 11 Mai 3pm, drysau 2pm
Rhagddangosiadau: 8 + 9 Mai £10
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
Hygyrchedd: Caiff perfformiadau dydd Sul 11 a dydd Mawrth 31 Mai eu dehongli i BSL gan Nikki Harris
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy'r cod QR ar eich bwrdd yn ystod y sioe a byddwn ni'n dod â'ch diodydd i chi. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)