Gwyliwch raddedigion o raglenni Israddedig WAVDA yn perfformio golygfeydd, monologau, caneuon a darnnau ensemble sy'n arddangos eu talent eithriadol.
Mae'r Arddangosiad yn gyfle i aelodau'r Diwydiant yn ogystal â'r cyhoedd, ffrindiau a theulu i weld talent newydd yn perfformio.
Perfformiadau cyfoes swynol, yn arddangos talentau amrywiol y graddedigion eleni.
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 16+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, MYFYRWYR, DAN 30 OED + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
Grwpiau
Gostyngiad o £3 i grwpiau o 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymheiriad. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.