Mae Flat and the Curves yn dychwelyd i Ganolfan Mileniwm Cymru!
Yn syth o’u taith o’r DU, mae’r ensemble pwerus yn cyflwyno noson o gomedi cerddorol gwreiddiol di-flewyn-ar-dafod sydd mor ysblennydd yn lleisiol ag y mae’n gywilyddus.
O anthemau parti aflafar i sylwebaeth gymdeithasol siarp, gallwch chi ddisgwyl sylwadau onest am fywyd modern, cyfeillgarwch a nosweithiau allan. Fel y ‘Spice Girls’ yn cwrdd â ‘The Inbetweeners’ – lle mae lleisiau fel newydd yn cwrdd â chomedi di-drefn dymunol.
Ar ôl dod yn un o’r actau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin roedd pobl yn siarad amdano fwyaf, a chael enwebiad am Wobr Comedi Caeredin ISH 2024, mae’r breninesau comedi yma nôl gyda’u sioe ddiweddaraf, yn cyflwyno noson o lanast cerddorol swynol a fydd yn eich gwneud chi’n ddiolchgar eich bod chi yn y gynulleidfa yn hytrach na’r sgwrs grŵp.
“a near-perfect blend of relatable comedy, barnstorming musicality and bold feminist attitude.”
Amser dechrau: 8pm, drysau 7pm
Oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.