Noson yn arddangos bwrlésg gorau’r DU.
Ymunwch â ni am noson amrywiaethol yn hyrwyddo ffurfiau gwahanol o fwrlésg, o demtasiwn dymunol i wiriondeb sosi a pherfformiadau gafaelgar, rydyn ni yma i’ch difyrru a’ch gwefreiddio.
Gyda pherfformiadau gan Elena Candela, Bolly Ditz Dolly, Velma Vogue, Dawn Voz, Cadbury Parfait ac wedi’i gyflwyno gan Reece Connolly, arweinydd y llwyddiant cwlt ‘Gallifrey Cabaret’.
Mae bwrlésg yn ffurf gelf i bob corff. Rydyn ni’n dathlu perfformwyr o bob cefndir, gan roi sylw angenrheidiol iddyn nhw a’u straeon. P’un a ydych chi’n ffan cyfarwydd o fwrlésg neu erioed wedi dod i sioe, rydyn ni’n ceisio creu noson groesawgar a chynnes i chi fwynhau, ymddiddori ac ymgolli yn y doniau anhygoel.
Mynnwch eich tocynnau nawr!


Bolly Ditz Dolly




Cast
Elena Candela (hi)
Mae llosgfynydd Venezuela yn berfformiwr bwrlésg anghydffurfiol sydd bellach yn byw ym Mryste. Mae’r ferch sioe dosbarth gweithiol yn cyflwyno ei hun drwy symudiadau folcanig sy’n ysgwyd y ddaear, ac mae ei hactau yn adrodd straeon a fydd yn loetran yn eich meddwl ar ôl pwdin.
Bolly Ditz Dolly (hi)
Gan chwalu stereoteipiau gyda gwên, mae’r Frenhines Neo-Bollyesque arobryn Bolly Ditz Dolly yn dathlu tonau euraidd y gorffennol gyda throad sy’n troelli taselau. Perfformiwr toreithiog sy’n adnabyddus am ei chyfuniad unigryw o ddawns Bollywood, bwrlésg, cabaret, gair llafar a barddoniaeth.
Velma Vogue (hi)
Dylunydd ffasiwn, creawdwr gwisgoedd a pherfformiwr bwrlésg Neo rhyngwladol ffyrnig, mae Velma Vogue yn seren siapus a godidog sy’n codi yn sîn bwrlésg y DU. Gan dynnu ysbrydoliaeth o’i phrofiadau ei hun, mae Velma yn creu actau unigryw, gwleidyddol ac emosiynol sydd â neges gref.
Dawn Voz (hi/nhw)
Dewch i gwrdd â Dawn Voz. Yn diferu gosgeiddrwydd ac wyneb ffyrnig, mae Dawn yn cyfuno bwrlésg traddodiadol â chefndir cyfoethog mewn cerddoriaeth a dawns. Gyda chariad at glamoreiddio bod yn fregus. Maen nhw’n anadlu gwirionedd mewn i bob perfformiad, gan asio cryfder digyffro â theatr ecsentrig. Mae eu celfyddyd yn eich gwahodd chi i gysylltu, gan danio eich dyheadau gydag angerdd a hudoliaeth fythgofiadwy.
Cadbury Parfait (hi)
Artist bwrlésg Prydeinig Cwiar Du yw Cadbury Parfait, hi yw’r 31ain perfformiwr mwyaf dylanwadol ledled y byd a’r 3ydd yn y DU. Mae’n berfformiwr rhyngwladol ac arobryn sy’n cyflwyno bwrlésg clasurol gydag awgrym o hiwmor eironig Prydeinig – y Pryfociwr Clasurol yn Cyflwyno Anweddustra Prydeinig. Yn syth o'i chyfnod yn perfformio yn NUTCRACKER, sioe cabaret Nadolig Canolfan Mileniwm Cymru, mae Cadbury yn dychwelyd i Gaerdydd i gynhyrchu a pherfformio er mwyn eich diddanu. Mae’n ymddangos na allwch chi gael digon o’r Sugarplum yma.
Reece Connolly (nhw/fe)
Storïwr bach â mwstash, pedler chwarae ar eiriau, ac yn gallu gwasgu ensyniad allan o bron popeth (gofynna i dy dad). Cyd-greawdwr ac arweinydd y llwyddiant cwlt ‘Gallifrey Cabaret’.
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 18+
Rhybuddion: Iaith gref, noethni
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.