Gan uno traddodiadau gwerin hynafol â dawn gyfoes feiddgar, mae Wise Woman yn cyrraedd gyda gwrthdrawiad byrbwyll o harmonïau lleisiol hyfryd, llinynnau sinematig a phŵer merched o’r 90au.
Mae cyfuniad trawiadol y grŵp o synau gwerin, jazz a theatr gerdd wedi cyfareddu cynulleidfaoedd ym mhob man, o Radio 3 i Celtic Connections i Secret Garden Party.
Gan adrodd straeon am bynciau amrywiol fel gwrachod ffendir, gweithredwyr amgylcheddol ac artistiaid drag, mae geiriau pwerus a storïau hudolus yn cludo cynulleidfaoedd at daith gerddorol unigryw a thrawsnewidiol.
Mae’r daith yma yn dathlu eu EP diweddaraf “Hold The Wonder” (Mawrth 2025), sy’n cyfuno synau a cappella hudol y band â chaneuon gwreiddiol am brotest, darganfyddiad personol ac efallai ychydig o newid siâp.
“You guys absolutely rock”
"Astonishingly gifted... Their lyrics are absolutely definable as poetry”
Amser dechrau: 8pm, 7pm drysau
Canllaw oed: 16+
IECHYD DA!
Mae'r drysau yn agor awr cyn i'r perfformiad ddechrau, er mwyn i chi ddod o hyd i fwrdd, cwrdd â'ch ffrindiau a chael diod o'n bar Cabaret.
Gallwch chi hefyd archebu drwy ein ap drwy gydol y sioe a byddwn yn dod â'ch diodydd yn syth i'ch bwrdd. Hyfryd!
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
Cynghorwn fod grwpiau mawr yn cyrraedd yn gynnar fel y gallwch ddod o hyd i seddi gyda’ch gilydd.
Os bydd y sioe wedi gwerthu allan, mae’n bosibl y bydd rhaid i chi rannu bwrdd.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £3
GRWPIAU
Gostyngiad o £3 i grwpiau 10+
Wrth archebu ar-lein, caiff y gostyngiad i grwpiau ei ychwanegu yn awtomatig pan fyddwch chi'n talu.
CYNLLUN HYNT
Tocynnau am ddim i ofalwyr a chymdeithion. Dysgwch fwy am gynllun hygyrchedd Hynt.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.