Yn dilyn dwy flynedd ryfeddol yn y West End a thaith gyntaf syfrdanol ledled y DU ac Iwerddon, mae’r sioe gerdd newydd wych a enillodd wobr Olivier, sy’n dilyn uchafbwyntiau gorfoleddus ac isafbwyntiau arteithiol The Kinks, ‘nôl!
Mae Sunny Afternoon yn dathlu egni crai, angerdd a sain ddiamser un o fandiau mwyaf eiconig Prydain, gan adrodd eu stori drwy gatalog anhygoel o ganeuon a gyrhaeddodd brif y siartiau, gan gynnwys “You Really Got Me,” “Lola,” ac “All Day and All of the Night.”
“A blazing triumph! I swear you’ll get goosebumps”
Wedi’i osod ym Mhrydain yn ystod y 60au gwrthryfelgar, mae Sunny Afternoon yn ddathliad bywiog ac emosiynol o gerddoriaeth, bywyd a’r band a newidiodd popeth.
“A belter! Funny, stylish. It has everything The Kinks had”
Mae Sunny Afternoon yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan Ray Davies, llyfr gan Joe Penhall, stori wreiddiol gan Ray Davies a chyfarwyddyd gan Edward Hall.
“This is a great, very British musical about a great, very British band”
Canllaw oed: 12+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn
Rhybuddion: Iaith gref
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Mer, Iau, Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 2 awr a 20 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth
GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Iau). Trefnu ymweliad grŵp.
Book early to ensure the best choice of seats. We regularly monitor and adjust ticket prices to optimise income and to ensure a wide range of price options where possible. Prices are subject to change. Read more.