Yn dilyn tymhorau a werthodd allan yn Llundain ac Efrog Newydd, mae’r sioe gerdd lwyddiannus newydd sbon Cruel Intentions yn dod i Gaerdydd.
Yn seiliedig ar y ffilm eiconig ac wedi’i hysbrydoli gan Les Liaisons Dangereuses, mae’n llawn clasuron pop y 90au gan gynnwys caneuon gan Britney Spears, Boyz II Men, Christina Aguilera, TLC, R.E.M., Ace of Base, Natalie Imbruglia, The Verve, *NSYNC a llawer mwy!
Mae’r llysfrawd a chwaer Sebastian Valmont a Kathryn Merteuil yn cymryd rhan mewn bet greulon: mae Kathryn yn procio Sebastian i geisio denu Annette Hargrove, merch rinweddol y prifathro.
Very funny, very sexy and very entertaining
Gan wau gwe o gyfrinachau a themtasiwn, mae eu hymgyrch yn gwneud difrod ar y myfyrwyr yn eu hysgol yn Manhattan. Cyn bo hir mae’r pâr yn mynd yn sownd yn eu gwe eu hunain o dwyll a rhamant annisgwyl, gyda chanlyniadau ffrwydrol...
Mae’r ffilm eiconig wedi’i gosod i ganeuon gorau’r degawd yn gyfuniad cymhellol a gyda dros 40 o adolygiadau pedair a phum seren, dyma noson allan eithaf y 90au.





Canllaw oed: 15+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i blant o dan 16 oed fod yng nghwmni deiliaid tocyn sydd o leiaf 18 oed
Rhybuddion: Mae’r cynhyrchiad yma yn defnyddio tawch a goleuadau sy’n fflachio. Mae Cruel Intentions yn cynnwys iaith gref a themâu aeddfed sy’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iaith ac ymddygiad rhywiol amlwg, gwahaniaethu hiliol, defnydd o gyffuriau, camdriniaeth, marwolaeth ddamweiniol, amheuaeth am gydsyniad. Gan fod Cruel Intentions wedi’i osod yn 1999, mae rhywfaint o'r iaith yn adlewyrchu’r cyfnod hwnnw.
Amser cychwyn:
Mer, Iau + Sad 7.30pm
Gwe 5pm + 8.30pm
Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: tua 1 awr a 55 munud (yn cynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 seddi penodol (ar y noson agoriadol), nifer cyfyngedig o lefydd)
GRWPIAU
Grwpiau o 4+ gostyngiad o £4 seddi penodol
Dyddiad talu grwpiau 28 Ebrill 2025
16–30
Gostyngiad o £8 (Mer – Iau + Gwe 5pm)
Archebwch cyn gynted ag gallwch i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Gall prisiau tocynnau newid heb rybudd a byddant yn adlewyrchu’r galw cyfredol.