Shw'mae

Siarad Cymraeg? Visit the Welsh site.

Dewch i mewn

Six

28 Hydref – 8 Tachwedd 2025

Theatr Donald Gordon

Ysgarwyd. Dienyddiwyd. YN FYW!

Mae’r sioe gerdd lwyddiannus ryngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd ar ôl gwerthu pob tocyn tro diwethaf!

Gyda Gwobr Tony 2022 am y ‘Sgôr Gwreiddiol Orau’ a’r ‘Dyluniad Gwisgoedd Gorau’, Gwobr Whatsonstage 2022 am y ‘Sioe West End Orau’ ac albwm sydd wedi ennill Disg Aur, mae neges gref a bwerus gan y sioe Duduraidd yma ac mae’n adloniant pur. 

Mae hyn yn graddio allan o 5 sêr

“CAPTIVATING AND EXHILARATING. DO YOURSELF A FAVOUR AND GO AND PARTY WITH SIX. YOU WON’T REGRET IT!”

Attitude

O freninesau Tuduraidd i dywysogesau pop, mae chwe gwraig Harri VIII yn gafael yn y meic i adrodd eu hanesion, gan gydblethu pum can mlynedd o dor-calon hanesyddol mewn dathliad 80 munud o bŵer merched yr 21ain ganrif. Efallai fod gan y breninesau yma lewys gwyrdd ond mae eu lipstic yn goch gwrthryfelgar.

Meddwl eich bod chi’n gwybod yr odl Saesneg? Meddyliwch eto…

Ysgarwyd. Dienyddiwyd. YN FYW!

Canllaw oed: 10+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn

Rhybuddion: Yn cynnwys iaith gref + goleuadau strôb

Amser dechrau:
Maw, Mer, Iau 8pm (heblaw am nos Fercher 5 Tach 8.30pm)
Gwe 6pm + 8.30pm
Sad 4pm + 8pm
Sul 2pm

Hyd y perfformiad: Tua 80 munud (dim egwyl)

AELODAU

Gostyngiad o £10 ar seddi penodol (noson agoriadol), nifer cyfyngedig
Aelodaeth

GRŴPIAU

Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £4 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe). Dyddiad talu 2 Mehefin 2025.

Trefnu ymweliad grŵp

16-30

Gostyngiad o £8 ar sedddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe), nifer cyfyngedig

O DAN 16

Gostyngiad o £8 ar seddi penodol (perfformiadau prynhawn Maw – Gwe)

Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd

Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy

Patti Smith

Cyflwynir yn

Theatr Donald Gordon

Sioeau Cerdd

Gweld popeth
Tina - The Tina Turner Musical

TINA – The Tina Turner Musical

Cyflwynir mewn cydweithrediad â Tina Turner

Here & Now

Priscilla Queen of the Desert

& Juliet

Wedi’i chreu gan awdur Schitt’s Creek a enillodd wobr Emmy

The Bodyguard

The Bodyguard

Dear Evan Hansen

Dear Evan Hansen

Sunny Afternoon

Chicago

Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat

Geiriau gan Tim Rice, Cerddoriaeth gan Andrew Lloyd Webber

A Night At The Musicals

Gyda Welsh of the West End a The Novello Orchestra

Six

The Book of Mormon

Cruel Intentions: Sioe Gerdd y '90au

Sir Tim Rice

Tim Rice - My Life In Musicals

I Know Him So Well

Mary Poppins

Irving Berlin's Top Hat The Musical

Top Hat