There may be trouble ahead,
But while there’s moonlight, and music,
And love, and romance…
Let’s face the music and dance
Fe’ch gwahoddir i fersiwn sioe gerdd o’r siampên penigamp gorau. Byrlymol, cain a bywiogol, mae Top Hat yn goctel rhamantus cryf wedi’i addurno â dialog ffraeth, coreograffi syfrdanol, setiau helaeth a gwisgoedd godidog. Mae sgôr hudolus Irving Berling yn cynnwys rhai o ganeuon gorau Hollywood, fel Cheek to Cheek, Let’s Face the Music and Dance, Top Hat White Tie and Tails a Puttin’ on the Ritz.
Pan mae seren Broadway Jerry Travers yn cyrraedd Llundain i agor sioe newydd, mae’n cwrdd â’r model Dale Tremont, pan mae’n cael ei deffro gan sŵn Jerry yn dawnsio tap yn y suite gwesty uwchben ei hystafell hi. Mae Jerry, sy’n syrthio mewn cariad ar unwaith, yn addo rhoi’r gorau i’w fywyd fel dyn sengl i’w hennill – ond dyw llwybr cariad byth yn syml. Yn enwedig achos mae Dale yn meddwl mai Jerry yw ei gynhyrchydd anffodus Horace, sy’n ceisio osgoi dicter ei wraig Madge, ac mae edmygwr Eidalaidd Dale yn trefnu taith i Fenis iddi er mwyn dangos ei ffrogiau ffasiynol…
Yn seiliedig ar y ffilm o 1935 gyda Fred Astaire a Ginger Rogers, enillodd premiere yr addasiad llwyfan yn y West End Wobr Olivier 2013 am y Sioe Gerdd Newydd Orau a Gwobr yr Evening Standard am y Noson Allan Orau. Mae’r cyfarwyddwr a choreograffydd llwyddiannus o’r Unol Daleithiau Kathleen Marshall, a syfrdanodd cynulleidfaoedd ac adolygwyr yn Llundain ac ar y teledu gyda’i chynhyrchiad o Anything Goes a enillodd Wobr Tony ac Olivier, yn dod i’r DU i lwyfannu’r cynhyrchiad newydd sbon yma.
Cerddoriaeth a Geiriau gan Irving Berlin
Yn seiliedig ar Ffilm RKO
Addaswyd i’r llwyfan gan Matthew White a Howard Jacques
Canllaw oed: 8+ (dim plant dan 2 oed). Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion: Noder efallai bydd y perfformiad hwn yn cynnwys rhai goleuadau sy'n fflachio.
Amser cychwyn:
Maw – Sad 7.30pm
Iau, Sad 2.30pm
Perfformiadau Hygyrch
Perfformiad Iaith Arwyddion Prydain (BSL): 13 Tachwedd 2025, 7.30pm
Perfformiad gyda chapsiynau: 14 Tachwedd 2025, 7.30pm
Perfformiad wedi’u sain ddisgrifio: 15 Tachwedd 2025, 2.30pm
Teithiau Cyffwrdd: 15 Tachwedd 2025, 1.15pm
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar y noson agoriadol (2 bris uchaf), argaeledd cyfyngedig. Dod yn aelod.
GRWPIAU
Grwpiau o 10+ gostyngiad o £5, grwpiau o 20+ gostyngiad o £6, grwpiau o 40+ gostyngiad o £7 (y 2 bris uchaf, Maw – Gwe). Trefnu ymweliad grŵp.
Cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd.
Archebwch yn gynnar i sicrhau’r dewis gorau o seddi. Rydyn ni’n monitro ac yn addasu prisiau tocynnau yn rheolaidd i optimeiddio incwm a sicrhau ystod eang o brisiau lle y bo’n bosibl. Gall prisiau newid. Darllenwch fwy.
Capsiynau Agored
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad
Teithiau Cyffwrdd