Paratowch i droi’r glamor i fyny – mae Priscilla Queen of the Desert, yn seiliedig ar y ffilm o 1994 a enillodd Oscar, ‘nôl gyda thaith ddisglair ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Mae’r sioe gerdd Broadway a West End yma yn mynd â chi ar reid ddoniol a thwymgalon wrth i dri ffrind fynd ar daith ledled y Berfeddwlad i gyflwyno sioe oes. Mae Priscilla Queen of the Desert yn archwilio hunaniaeth, amrywiaeth a’r daith tuag at dderbyn eich hun drwy herio normau cymdeithasol wrth i’r cymeriadau wynebu rhagfarn a gofid. Mae’n dathlu pŵer cariad, cyfeillgarwch, undod, bod yn chi eich hun heb ymddiheuriad a chofleidio eraill am bwy ydyn nhw.
Gan gynhyrchwyr Hairspray, The Full Monty a Shrek, mae’r strafagansa gerddorol ddisglair yma yn llawn dawnsdrefnau rhyfeddol, gwisgoedd llachar a thrac sain serennog yn llawn o’ch hoff anthemau disgo a dawns o’r 80au a’r 90au, gan gynnwys Hot Stuff, It’s Raining Men, I Will Survive, Girls Just Wanna Have Fun, Finally a mwy. Noson allan fythgofiadwy yn llawn hiwmor a chalon!
Felly, cydiwch yn eich sodlau, paciwch y gliter a pharatowch i ddawnsio unwaith eto!
'THE BEST FEEL-GOOD SHOW SINCE MAMMA MIA!’
Canllaw oed: 14+ (dim plant dan 2 oed)
Rhaid i bob plentyn dan 16 oed eistedd gydag oedolyn 18 oed neu’n hŷn.
Rhybuddion: Mae'r cynhyrchiad yma yn defnyddio goleuadau strôb a goleuadau sy'n fflachio. Mae Priscilla Queen of the Desert yn cynnwys iaith gref, trais a sarhau homoffobig a thrawsffobig.
Amser dechrau:
Llun – Sad 7.30pm
Iau + Sad 2.30pm
Hyd y perfformiad: Tua 2 awr 20 munud (gan gynnwys un egwyl)
AELODAU
Gostyngiad o £10 ar noson agoriadol (seddi penodol, argaeledd cyfyngedig). Aelodaeth.
GRŴPIAU
Grwpiau 10+ gostyngiad o oleuaf £5, Llun – Iau
Trefnu ymweliad grŵp. Dyddiad talu: 8 Rhagfyr 2025
O DAN 16
Gostyngiad o £5 ar seddi penodol, Llun – Iau
16–30
Gostyngiad o £8 ar seddi penodol, Llun – Iau
Mae'r cynigion yn seiliedig ar seddi penodol, dyraniadau ac argaeledd