Beth os wyt ti’n brifo Duncan? Beth os wnes di? Dwi’n siŵr y gallet ti. Dwi’n siŵr y gallet ti wneud. Dwi’n siŵr y byddi di.
Mae Nye a Duncan yn byw yng nghartref eu breuddwydion. Maen nhw’n canu caneuon ac yn chwarae gyda’i gilydd drwy’r dydd gyda’u ffrindiau gorau, Laura a Radio. Mae popeth yn iawn! Ond pan mae Nye yn siarad yn agor am ei feddyliau ymwthiol, mae pethau’n dechrau mynd ar gyfeiliorn...
Cipolwg trasig a digrif ar anhwylder gorfodaeth obsesiynol, sy’n ddoniol ac yn emosiynol iawn. Mae CHOO CHOO! yn sioe am gyflwr sy’n cael ei gamddeall, wedi’i hadrodd gan bobl sy’n gwybod ychydig amdano.
Enillydd gwobr Fringe First 2023 a derbynnydd Gwobr y Sefydliad Iechyd Meddwl 2023
“An original and audacious exploration of mental health and theatrical form”
“An hour full of humour, heartfelt fun, and the best portrayal of OCD I’ve ever seen in a theatre production.”
Amser dechrau: 8pm
Hyd y perfformiad: 1 awr
Canllaw oed: 14+
Rhybuddion: Iaith gref, goleuadau sy’n fflachio. Cyfeiriadau at: rhyw, marwolaeth, halogiad (contamination), trais, meddyliau ymwthiol.
Hygyrchedd: BSL integredig gan Laura Goulden, Sain Ddisgrifiad integredig
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £6
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.
Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL)
Sain Ddisgrifiad