Beth mae’n ei olygu i gamu ar lwyfan, ac felly i mewn i'r byd? Beth ydw i'n barod i'w ddangos?
Mae’r coreograffi awr o hyd yma yn cynnwys dod at ein gilydd yn gyson, gan aildrefnu a datod. Wedi’u plethu o dan hyn mae teimladau unigol y dawnswyr, fel mwynhau’r symudiadau a blasu eu rhyddid i symud mewn eiliadau unigol, ond hefyd yn y cydadwaith o gyrff mewn cydamseroldeb, deuawdau a llonyddwch grŵp.
Mae UNDRESSED yn ymwneud â bod yn ddynol mewn ffordd bur ac amlwg, wedi’i adrodd drwy ddawns, corff, symudiad, anadlu, cerddoriaeth a thawelwch ac mae’n llwyddo heb iaith lafar.
"A sensitive dance piece about roles and commonalities at the core of being human."
Amser dechrau: 8pm
Hyd y perfformiad: 55 munud
Canllaw oed: 16+
Rhybuddion: Noethni gwrywaidd llawn, noethni benywaidd rhannol
Hygyrchedd: Sain Ddisgrifiad gan Ellen Groves
Nid yw’r seddi wedi’u cadw.
POBL ANABL, DAN 30 OED, MYFYRWYR + DIGYFLOGEDIG
Gostyngiad o £6
CYNLLUN HYNT
Ar gael ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Darganfod mwy.
Mae pob cynnig yn amodol ar ddosraniadau ac argaeledd.
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru.
Sain Ddisgrifiad